Galwad am Bapurau wedi cau
Mae'r gynhadledd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb cynnig papur ar hanes y Blaid Lafur, ond gan ganolbwyntio'n neilltuol ar ddylanwadau, gweithrediadau a digwyddiadau sydd wedi llunio polisi.
Bwriedir i'r gynhadledd hon fod yn un eang. Rhoddir sylw i faterion fel dosbarth, gender ac effeithiau'r ideolegau hŷn, megis rhyddfrydiaeth a sosialaeth, yn ymestyn yn ôl i fudiadau pwysig y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ddatblygiad y Blaid Lafur a'i ffordd o fynd ati i lunio polisi. Yn ogystal ag edrych ar ddatblygiad ideolegol y Blaid, bydd y gynhadledd yn ymdrin â materion yn amrywio o hunaniaeth ranbarthol a lleol i ddylanwadau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol a thrafod eu perthnasedd i ddatblygiad y blaid. Wrth wneud hynny mae'r gynhadledd yn gobeithio adeiladu ar draddodiad Prifysgol Bangor o ysgogi trafod ac annog ymchwil bellach i hanes y Blaid Lafur.
Cyflwyno Crynodebau
Dylai pob cynnig gynnwys y canlynol: teitl ac enw'r awdur, enw a chyfeiriad y sefydliad, cyfeiriad e-bost, teitl y papur a chrynodeb o hyd at 500 gair, y thema/themâu y bwriadwch ymdrin â hi/hwy, a hyd at bump o eiriau allweddol am eich papur. Dylech hefyd nodi a ydych yn fyfyriwr ôl-radd ai peidio.
Dylid anfon crynodebau (hyd at 500 gair) ar gyfer papurau 30 munud erbyn 30 Ionawr 2015 at labourhistory@bangor.ac.uk