Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau

Cynhadledd 'Shaping the Labour Party'

Dydd Llun 23 a Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015 

I gofio 70 mlynedd ers ethol y llywodraeth Lafur gyntaf gyda mwyafrif clir yn 1945, bydd yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd ar hanes y Blaid Lafur. Teitl y gynhadledd fydd 'Shaping the Labour Party'.    

Bydd y gynhadledd hon yn edrych ar y themâu a'r dylanwadau sydd wedi ffurfio natur a chyfeiriad y Blaid ers ei dechreuadau cynnar. Bydd yn canolbwyntio nid yn unig ar y blaid seneddol, ond hefyd ar y blaid ehangach, mudiadau llafur a grwpiau ac unigolion eraill sydd wedi dylanwadu ar bolisi a chyfeiriad y blaid, mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid. Rydym yn croesawu papurau ar unrhyw agwedd ar hanes y Blaid Lafur, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ddylanwadau, gweithredoedd a digwyddiadau sydd wedi bod yn fodd i ffurfio a datblygu polisi.

*Rydym yn croesawu papurau gan unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y Blaid Lafur - yn arbennig rhai sy'n canolbwyntio ar ddylanwadau, gweithrediadau a digwyddiadau sydd wedi llunio polisi.* 

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: labourhistory@bangor.ac.uk

Site footer